Penodwyd Tom gan Tony Blair yn Weinidog yn yr Adran Drafnidiaeth (DfT) yn 2006, lle’r oedd yn gyfrifol am reilffyrdd, systemau tram a pholisi beicio Prydain. Yn 2007, pan ddaeth Gordon Brown yn Brif Weinidog, ehangwyd portffolio Tom i gynnwys rhwydwaith cefnffyrdd y wlad.
Fel y Gweinidog rheilffyrdd hiraf yn ystod cyfnod Llafur mewn Llywodraeth, goruchwyliodd Tom y broses ryddfreinio a’r fanyleb allbwn lefel uchel (HLOS), sy’n dyrannu adnoddau i’r rhwydwaith dros gyfnod o bum mlynedd. Cymerodd hefyd y Bil Crossrail drwy ei gamau Seneddol terfynol i gael Cydsyniad Brenhinol.
Roedd rolau eraill Tom yn y Llywodraeth yn cynnwys Ysgrifennydd Seneddol preifat (cynorthwyydd Gweinidogol) i’r Ysgrifennydd Iechyd, Patricia Hewitt AS, a Gweinidog Gogledd Iwerddon, John Spellar AS. Fel seneddwr, roedd Tom yn aelod o nifer o bwyllgorau dethol Tŷ’r cyffredin, gan gynnwys trafnidiaeth a Gwyddoniaeth & thechnoleg. Yn ddiweddarach bu’n Weinidog yr Amgylchedd cysgodol yn ystod arweinyddiaeth Ed Miliband o’r Blaid Lafur.
Ers gadael Senedd y DU, mae Tom wedi dychwelyd i’w broffesiwn gwreiddiol o newyddiaduraeth, fel cyfrannwr dyddiol i’r Telegraph ar-lein. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr ei gwmni materion cyhoeddus ei hun, Third Avenue Communications.