Ymgynghorydd cyswllt

Ymunodd Peter Plisner â thîm Cogitamus yn 2022 gan ddod â’i brofiad helaeth o drafnidiaeth ynghyd ag arbenigedd y cyfryngau a gafwyd o weithio ym maes darlledu ar gyfer y BBC a chwmnïau annibynnol.

Yn newyddiadurwr am fwy na 40 mlynedd yn arbenigo mewn trafnidiaeth am ran helaeth o’r amser hwnnw, dechreuodd gyrfa ddarlledu Peter Plisner mewn radio lleol annibynnol cyn gweithio i amrywiaeth o sianeli cenedlaethol.

Bu’n ohebydd ariannol ar gyfer Independent Radio News ac yn ohebydd i’r BBC, gan arbenigo’n gyntaf mewn trafnidiaeth ac yn ddiweddarach mewn sylw busnes dros yrfa 30 mlynedd tan 2020. Mae Peter wedi gweithio ar draws pob platfform cyfryngau gan gynnwys radio, teledu a gwasanaethau ar-lein.

Mae Peter wedi astudio trafnidiaeth yn academaidd, gan ennill rhagoriaeth MSc mewn cynllunio trafnidiaeth.