Cyn dod yn ymgynghorydd llawrydd, bu Flo yn gweithio i nifer o ymgyrchoedd a chyrff anllywodraethol gwleidyddol rheng flaen y DU, gyda phrofiad yn cynghori ASau a Chyfoedion Llafur, mainc flaen yr Wrthblaid ac Ymgeiswyr Seneddol Posibl ar faterion sy’n ymwneud â pholisi, data a chyfathrebu strategol. Mae gan Flo ddealltwriaeth fanwl o lunio polisïau o fewn y Blaid Lafur a hanes o sicrhau newid ar bob lefel o broses llunio polisi’r blaid.
Yn ystod pandemig Covid-19, Flo oedd yn rheoli’r APPG mwyaf yn hanes seneddol a sefydlodd Gomisiwn annibynnol, trawsbleidiol cyntaf y DU ar bolisi masnach a busnes y Llywodraeth ar ôl Brexit.
Mae Flo yn Is-gadeirydd Plaid Lafur Kensington ac yn ddiweddar cyd-sefydlodd bodlediad mewnol Llafur – ‘The Power Test’ – sy’n archwilio sut y gallai llywodraeth Lafur lywodraethu’r DU yn y dyfodol.
Mae cymwysterau flo yn cynnwys graddau dosbarth cyntaf mewn Hanes a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caeredin a Phrifysgol Rhydychen a diploma ôl-raddedig yn y gyfraith.’